Siarter Myfyrwyr y Brifysgol Agored
Cafodd y Siarter Myfyrwyr ei chreu gan y Brifysgol Agored ac Undeb Myfyrwyr y Brifysgol Agored. Mae’n adeiladu ar genhadaeth y Brifysgol Agored i fod yn agored i bobl, i leoedd, i ddulliau ac i syniadau.
Mae’r Siarter Myfyrwyr yn ddatganiad o werthoedd ein cymuned o fyfyrwyr a staff ym mhob un o’n pedair cenedl a thu hwnt. Disgwylir i holl aelodau ein cymuned gynnal ei gwerthoedd, a adolygir yn flynyddol.

Rydym yn trin ein gilydd gydag urddas a pharch.
Rydym yn mynegi ein gwahanol gredoau a barn gyda charedigrwydd, gan ystyried eraill.
Rydym yn cydweithio i sicrhau bod y Brifysgol Agored yn lle diogel i bawb.
Rydym yn ymrwymo i ryddid barn a rhyddid academaidd.

Rydym yn helpu pobl i ddysgu mewn ffyrdd newydd, agored ac ymarferol – ac mae hynny’n gallu newid eu bywydau.
Rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i lwyddo, pwy bynnag ydynt a lle bynnag y maent.
Rydym yn cynnal safonau ymddygiad academaidd ac uniondeb academaidd uchel
Rydym yn cefnogi ymchwil safonol gyda chwilfrydedd brwdfrydig am y byd.

Rydym yn gwerthfawrogi cyfoeth yr amrywiaeth o fyfyrwyr a staff.
Rydym yn hyrwyddo tegwch drwy chwalu rhwystrau a herio anghydraddoldeb lle bynnag y mae’n bodoli.
Rydym yn brifysgol wrth-hiliol a gwrth-wahaniaethol.
Rydym yn ymrwymo bod ein dyluniad yn agored i bawb ac yn cynnwys pawb.Rydym yn cefnogi ein hymrwymiadau i'r iaith Gymraeg.

Rydym yn cefnogi llesiant ac yn cydweithio i sicrhau bod yr holl fyfyrwyr a staff yn gwybod eu bod yn bwysig yn y Brifysgol Agored.
Rydym yn gwerthfawrogi rhan bwysig Undeb Myfyrwyr y Brifysgol Agored yn y broses o ymwneud â myfyrwyr ac yn amddiffyn eu buddiannau.
Rydym yn cydweithio ac yn gweithio mewn partneriaeth i wella profiadau yn y Brifysgol Agored.
Rydym yn gwerthfawrogi lleisiau staff a myfyrwyr wrth wneud penderfyniadau ac yn rhannu’r gydag eraill yr effaith mae hyn yn ei gael.

Rydym yn gweithredu’n foesegol ac yn dryloyw.
Rydym yn mynd i’r afael â phryderon mewn modd teg. Yr ydym yn ddal ein hunain yn gyfrifol.
Rydym yn ymrwymo i gynaliadwyedd amgylcheddol, nawr ac ar gyfer y dyfodol.
Rydym yn cydweithio i sicrhau dyfodol y Brifysgol Agored fel lleoliad addysg agored sydd ag enw da.
Rydym wedi darparu fersiwn y gellir ei lawrlwytho ein Siarter Myfyrwyr os oes angen.
Gwerthoedd y Gymuned Myfyrwyr a Staff: Siarter Myfyrwyr y Brifysgol Agored